Dyma drosolwg o’r hyn mae’ch cyngor cymuned yn ei wneud:
- Gweithredu fel man cyswllt cyntaf i drigolion ynglŷn â phroblemau yn y gymuned.
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgynghori â’r cyngor ar amrywiol bynciau, gan gynnwys holl geisiadau cynllunio.
- Darparu Sgipiau Cymunedol ar gyfnodau rheolaidd
- Cynnal a chadw Mynwent Trefriw ac yn gweithredu fel yr Awdurdod Claddu.
- Darparu’r rhan fwyaf o seddi yn y pentref.
- Adrodd ar broblemau ar y priffyrdd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Gofalu am Faes Hamdden Trefriw.
- Darparu coeden Nadolig y pentref
- Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus yn y pentref.
- Mewn partneriaeth â Chyngor Conwy, ni sy’n gweinyddu Ymddiriedolaethau Elusennol Henry Higgins.
- Mae ganddo gynrychiolwyr ar Ymddiriedolaeth Cae Chwarae Plant Trefriw a Phwyllgor Neuadd Trefriw.
- Darparu grantiau i Glwb Garddio Trefriw i brynu planhigion ar gyfer yr Ardd Goffa a chafnau blodau yn y pentref.
- Rhedeg y rheoli, cynnal a chadw a archebion o neuadd y pentref