Ffurflenni Fynwent

Gellir lawrlwytho’r ffurflenni hyn o’r wefan, eu cael gan eich trefnydd angladdau neu gan y Clerc.

CM1 Hysbysiad Claddedigaeth

Anfonir y ffurflen hon at y Clerc gyda chopi o’r dystysgrif marwolaeth  o leiaf 48 awr cyn angladd. Bydd eich trefnydd angladdau fel arfer yn gofalu am hyn.

CM2 Cais am Gofeb

Ffurflen gais i ganiatáu’r hawl i godi cofeb  neu osod arysgrifiad ar fedd sy’n berchen i chi.

CM3 Datganiad Statudol

Cais am ail-agor bedd a bwrcaswyd, caniatâd i gladdu a newidiadau i gofebion lle nad ydi’r perchennog gwreiddiol yn gallu arwyddo.

CM4 Ffurflen Cydsynio

Gan ddefnyddio’r ffurflen hon, gall Ysgutor neu Weinyddwr yr Ewyllys Olaf awdurdodi trosglwyddiad yr Hawl Neilltuedig i Gladdu i berson arall.

CM5 Ymwrthod â Hawliau

Y ffurflen i’w defnyddio os ydych yn dymuno ildio unrhyw hawliau all fod gynnoch chi i gladdu mewn bedd yn y fynwent.

CM6 Ymadawedig Diewyllys

Dyma’r ffurflen i’w defnyddio i wneud cais am gael claddu os na adawyd Ewyllys gan yr ymadawedig.

CM7 Aseiniad yr Hawl i Gladdu

Caiff perchennog y bedd ddefnyddio’r ffurflen hon pan yn dymuno trosglwyddo’r hawl i gladdu mewn bedd i rywun arall.

CM8 Caniatâd i Adnewyddu neu Arysgrifio

Fe fydd angen hon arnoch chi os ydych am adnewyddu neu ychwanegu arysgrifiad ar gofeb. Does dim hawl i seiri maen coffa weithio yn y fynwent heb y caniatâd hwn.